Author: S. J. Griffith, 1880-? Hymnal: The Cyber Hymnal #13414 Meter: 8.7.8.7 D First Line: Arglwydd Iesu, arwain f’enaid Lyrics: 1 Arglwydd Iesu, arwain f’enaid
At y Graig sydd uwch na mi,
Craig safadwy mewn tymhestloedd,
Craig a ddeil yng ngrym y Ili;
Llechu wnaf yng Nghraig yr Oesoedd,
Deued dilyw, deued tân,
A phan chwalo’r greadigaeth,
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.
2 Pan fo creigiau’r byd yn rhwygo
Yn rhyferthwy’r farn a ddaw,
Stormydd creulon arna’ i’n curo,
Cedyrn fyrdd o’m cylch mewn braw;
Craig yr Oesoedd ddeil pryd hynny,
Yn y dyfroedd, yn y tân:
Draw ar gefnfor tragwyddoldeb
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân. Languages: Welsh Tune Title: IN MEMORIAM
Arglwydd Iesu, Arwai F'enaid