1 O fendigaid Geidwad, clyw fy egwan gri!
Crea ddelw’th gariad yn fy enaid i:
Carwn Dy gymundeb nefol, heb wahân,
Gwelwn wedd Dy wyneb, ond cael calon lân.
2 Plygaf i’th ewyllys, tawaf dan bob loes,
Try pob Mara’n felys, braint fydd dwyn y groes;
Molaf Dy drugaredd yn y peiriau tân;
Digon, yn y diwedd, fydd cael calon lân.
3 O fendigaid Arglwydd, ar fy nhaith trwy’r byd,
Gwynned Dy sancteiddrwydd ddyddiau’m hoes i gyd!
Angeu dry’n dangnefedd, try y Farn yn gân;
Nefoedd wen ddiddiwedd fydd i’r galon lân.