13433. Mae'r Faner Fawr Ymlaen

1 Mae’r faner fawr ymlaen,
Efengyl nef yw hon;
Mae uffern lawn o dân
Yn crynu ’nawr o’r bron;
Hi gwymp, hi gwymp, er maint ei grym;
O flaen fy Iesu ’d yw hi ddim.
O flaen fy Iesu ’d yw hi ddim.

2 Na lwfrhaed ein ffydd;
Mae’n ffydd fel colofn dân
A blannodd Brenin nef
I’n harwain yn y blaen;
Mi wela’r wlad, mi gâ’i mwynhau,
Lle pery’m hedd heb dranc na thrai.
Lle pery’m hedd heb dranc na thrai.

3 O! ffynnon fawr o hedd,
O! anchwiliadwy fôr,
Sy’n cynnwys ynddo’i hun
Ryw annherfynol stôr;
Ti biau’r clôd; wel, cymer ef,
Trwy’r ddaear, uffern fawr, a’r nef.
Trwy’r ddaear, uffern fawr, a’r nef.

Text Information
First Line: Mae’r faner fawr ymlaen
Title: Mae'r Faner Fawr Ymlaen
Author: William Williams, 1717-1791
Meter: 66.66.88
Language: Welsh
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: RHOSYMEDRE
Composer: John David Edwards (circa 1840)
Meter: 66.66.88
Key: F Major or modal
Copyright: Public Domain



Media
Adobe Acrobat image: PDF
MIDI file: MIDI
Noteworthy Composer score: Noteworthy Composer Score
More media are available on the tune authority page.

Suggestions or corrections? Contact us