13429. Fel, Fel Yr Wyf

1 Fel, fel yr wyf, ’nawr atat Ti
Heb ble ond aberth Calfari,
A’th fod yn galw arnaf fi,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.

2 Fel, fel yr wyf, heb oed’in hwy
I geisio’n ofer wella ’nghlwy’,
Ond atat Ti all wella mwy,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.

3 Fel, fel yr wyf, â’m heuog fron,
Yn derfysg drwyddi, fel y don,
Yn ofni suddo’r funud hon,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.

4 Fel, fel yr wyf, yn ddal, yn dlawd,
Y truenusaf un a ga’w’d,
Gan ddisgwyl ynot Ti gael Brawd,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.

5 Fel, fel yr wyf, mae’th gariad mawr,
Yn torri ’r rhwystrau oll i lawr;
’Gael bod yn eiddot byth yn awr,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.

Text Information
First Line: Fel, fel yr wyf, ’nawr atat Ti
Title: Fel, Fel Yr Wyf
Author: Thomas Levi, 1825-1916
Meter: 88.86
Language: Welsh
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: GWYLFA
Composer: D. Lloyd Evans
Meter: 88.86
Key: A♭ Major
Copyright: Public Domain



Media
Adobe Acrobat image: PDF
MIDI file: MIDI
Noteworthy Composer score: Noteworthy Composer Score

Suggestions or corrections? Contact us